Datganiad Cyffredin

5 - Tuag at Fwy o Undod

A Datganiad ar y Cyd
58 Rydym yn argymell bod ein heglwysi ar y cyd yn gwneud y Datganiad canlynol:
 
DATGANIAD PORVOO
  Yr ydym ni, Eglwys Denmarc, Eglwys Loegr, Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Estonia, Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Y Ffindir, Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Gwlad-yr-Iâ, Eglwys Iwerddon, Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Latfia, Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Lithwania, Eglwys Norwy, Eglwys Esgobaethol yr Alban, Eglwys Sweden a’r Eglwys yng Nghymru, ar sail ein dealltwriaeth gyffredin o natur a diben yr Eglwys, cytundeb sylfaenol ar ffydd a’n cytundeb ar esgobyddiaeth yng ngwasanaeth apostoligrwydd yr Eglwys, a gynhwysir ym Mhenodau II-IV Datganiad Cyffredin Porvoo yn gwneud y cydnabyddiaethau a’r ymroddiadau a ganlyn:
  a i yr ydym yn cydnabod eglwysi’r naill a’r llall yn eglwysi’n perthyn i Un Eglwys, Lân, Gatholig ac Apostolaidd Iesu Grist ac sy’n gwir gyfranogi yng nghenhadaeth apostolaidd holl bobl Dduw;
    ii yr ydym yn cydnabod fod Gair Duw’n cael ei bregethu’n ddiffuant yn ein holl eglwysi, a sacramentau bedydd a’r cymun bendigaid yn cael eu gweinyddu’n ddyladwy;
    iii yr ydym yn cydnabod fod ein holl eglwysi’n cyfranogi yng nghyffes gyffredinol y ffydd apostolaidd;
    iv yr ydym yn cydnabod fod gweinidogaethau ordeiniedig y naill a’r llall yn cael eu rhoi gan Dduw fel mynegiant o’i ras ac yn cynnwys nid yn unig alwad fewnol yr Ysbryd, ond hefyd gomisiwn Crist drwy ei gorff, yr Eglwys;
    v yr ydym yn cydnabod fod arolygiaeth (episcope) bersonol, golegol a rhanbarthol wedi ei hymgorffori ac yn cael ei gweithredu yn ein holl eglwysi mewn amryfal ffyrdd, er parhad bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolaidd;
    vi yr ydym yn cydnabod fod y swydd esgobol yn cael ei gwerthfawrogi a’i chynnal yn ein holl eglwysi fel arwydd gweladwy yn mynegi ac yn gwasanaethu undod a pharhad yr Eglwys, mewn bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolaidd.
  b Yr ydym yn ymrwymo:
    i i rannu bywyd cyffredin mewn cenhadaeth a gwasanaeth, i weddïo dros a chyda’n gilydd, ac i rannu adnoddau;
    ii i groesawu aelodau’n gilydd i dderbyn gweinidogaethau sacramentaidd a bugeiliol eraill;
    iii i ystyried aelodau bedyddiedig ein holl eglwysi fel aelodau o’n heglwysi ni ein hunain;
    iv i groesawu cynulleidfaoedd eglwysi gwasgaredig (diaspora) i fywyd yr eglwysi cynhenid, er cyfoethogi’r naill a’r llall;
    v i groesawu’r rhai a ordeiniwyd gan esgob unrhyw un o’n heglwysi i swydd esgob, offeiriad neu ddiacon, i wasanaethu trwy wahoddiad ac yn unol ag unrhyw reoliadau a allai fod mewn grym o bryd i’w gilydd, yn y weinidogaeth honno yn yr eglwys sy’n eu derbyn heb eu hail-ordeinio;
    vi i wahodd esgobion y naill a’r llall i gymryd rhan yn rheolaidd mewn arddodiad dwylo wrth ordeinio esgobion fel arwydd o undod a pharhad yr eglwys;
    vii i weithio tuag at ddealltwriaeth gyffredin o weinidogaeth ddiaconaidd;
    viii i sefydlu ffurfiau priodol o ymgynghori ar lefel coleg a chyngor ar faterion pwysig ffydd, trefn, bywyd a gwaith;
    ix i gefnogi ymgynghori rhwng cynrychiolwyr ein heglwysi, a hyrwyddo dysgu a chyfnewid syniadau a gwybodaeth ar faterion diwinyddol a bugeiliol;
    x i sefydlu grwp cysylltiol i feithrin ein twf mewn cymundeb ac i gyd-drefnu cyflawni’r cytundeb hwn.
B Dathliad Litwrgïaidd
59 Rydym yn argymell y dylai’r cytundeb hwn a’n perthynas newydd gael eu sefydlu a’u cadarnhau gan dri dathliad canolog o’r ewcharist y byddai ein holl eglwysi yn cael eu cynrychioli ynddynt. Byddai’r dathliadau hyn yn arwydd o:
    ein derbyniad llawn o’n gilydd;
    ein hymrwymiad ar y cyd i ffydd a bywyd sacramentaidd yr Eglwys;
    ein croeso i weinidogion ac aelodau yr eglwysi eraill fel ein rhai ein hunain;
    ein hymrwymiad i ymwneud â chenhadu gyda’n gilydd.
  Byddai’r dathliadau hyn yn cynnwys:
    darllen a llofnodi Datganiad Porvoo;
    gweddi ganolog o ddiolchgarwch am y gorffennol a deiseb dros y dyfodol, a gynigir gan Lwtheriaid dros Anglicaniaid a gan Anglicaniaid dros Lwtheriaid;
    cyfnewid yr Heddwch;
    ewcharist a ddethlir ar y cyd;
    arwyddion llafar a seremonïol eraill o’n bywyd cyffredin.
C Ymrwymiad Ecwmenaidd Ehangach
60 Llawenhawn yn ein cytundeb a ffurf yr undod gweladwy y mae’n ei wneud yn bosibl. Gwelwn ynddo gam tuag at undod gweladwy y mae’r holl eglwysi sy’n ymroddedig i’r mudiad ecwmenaidd yn ceisio ei fynegi. Nid ydym yn ystyried ein symudiad tuag at gymundeb agosach yn ddiben ynddo ei hun, ond fel rhan o’r ymdrech tuag at undod ehangach. Bydd yr ymdrech hon yn cynnwys y canlynol:
    cryfhau’r cysylltiadau sydd gan bob un o’n heglwysi gydag eglwysi eraill ar lefel leol, ranbarthol a rhyngwladol;
    dyfnhau’r berthynas o fewn a rhwng ein dau gyfundeb byd a chefnogi ymdrechion tuag at gymundeb agosach rhwng eglwysi Anglicanaidd a Lwtheraidd mewn rhanbarthau eraill, yn arbennig yng nghyswllt datblygu cytundebau yn Affrica a Gogledd America;
    datblygu ymhellach y cysylltiadau sy’n bodoli gyda chymundebau byd eraill, yn arbennig y rhai y mae gennym ddeialogau a chytundebau ecwmenaidd â hwy;
    cefnogi gyda’n gilydd ein cynghorau ecwmenaidd lleol, cenedlaethol a rhanbarthol, Cynhadledd yr Eglwysi Ewropeaidd a Chyngor Eglwysi’r Byd.
61 Mae etifeddiaeth gyffredin a galwad gyffredin ein heglwysi, a ddisgrifir yn y cytundeb hwn, yn ein gwneud yn ymwybodol o’n rhwymedigaeth i gyfrannu ar y cyd at ymdrechion ecwmenaidd rhai eraill. Ar yr un pryd rydym yn ymwybodol o’n hangen ni ein hunain i gael ein cyfoethogi gan brofiad a barn eglwysi o draddodiadau eraill ac mewn rhannau eraill o’r byd. Gyda hwy rydym yn barod i gael ein defnyddio gan Dduw fel offerynnau ei ddiben achubol a chymodol i ddynolryw a’r greadigaeth i gyd.

Cynnwys - Rhagair - Pennod I - Pennod II - Pennod III - Pennod IV - Pennod V

 
 
© The Porvoo Churches 2004 | Webmaster | Top of pages