| 34 |
Mae problem hir hoedlog parthed gweinidogaeth
esgobaethol a’i pherthynas ag olyniaeth. Ar adeg y Diwygiad
Protestannaidd ordeiniodd ein holl eglwysi esgobion (weithiau defnyddir
y term uwcharolygwr fel gair arall am esgob) i’r esgobaethau
oedd yn bodoli gan yr Eglwys Gatholig, gan ddangos eu bwriad i barhau
bywyd a gweinidogaeth yr un Eglwys, Sanctaidd, Gatholig ac Apostolaidd.
Yn rhai o’r tiriogaethau roedd olyniaeth yr esgobion yn cael
ei gynnal trwy ordeiniad esgobol, tra, mewn mannau eraill ar rai achlysuron,
fe welwyd esgobion neu uwcharolygwyr yn cael eu cysegru gan offeiriaid
gan ddilyn yr hyn a dybiwyd oedd yn gynsail yn yr Eglwys fore. Un
o ganlyniadau hyn oedd diffyg undod rhwng gweinidogaeth ein heglwysi
ac felly bu’n rhwystr i’n tystiolaeth, gwasanaeth a chenhadaeth
gyffredin. Ond law yn llaw â’r ymyrraeth hon ar yr olyniaeth
esgobol, yn yr eglwysi penodol hyn roedd y bwriad i ddiogelu parhad
apostolaidd yr Eglwys fel Eglwys yr efengyl a wasanaethir gan weinidogaeth
esgobol a chan gamau i sicrhau hynny. Mae traddodiad yr eglwysi hyn
wedyn yn dangos eu ffyddlondeb i apostoligrwydd yr Eglwys. Dros y
can mlynedd diwethaf mae ein holl eglwysi wedi teimlo angen cynyddol
i oresgyn yr anhawster hwn a rhoi mynegiant cyffredin i’w cyfraniad
parhaus at fywyd yr Un Eglwys, Gatholig, Apostolaidd. |
| 35 |
Oherwydd yr anhawster hwn rydym yn awr
yn nodi yn fanylach ddealltwriaeth o apostoligrwydd yr Eglwys gyfan
ac o fewn hynny y weinidogaeth apostolaidd, olyniaeth yn y swydd esgobol
a’r olyniaeth hanesyddol fel arwydd. Mae’r cyfan o’r
rhain yn gyd-gysylltiedig. |
| A |
Apostoligrwydd yr Eglwys Gyfan |
| 36 |
‘Yn y Credo, mae’r Eglwys
yn cyffesu ei bod yn apostolaidd. Mae’r Eglwys yn byw trwy barhau
i ddilyn yr apostolion a’u datganiad. Mae’r un Arglwydd
ag a anfonodd yr apostolion yn parhau i fod yn bresennol yn yr Eglwys.
Mae’r Ysbryd yn cadw’r Eglwys yn y traddodiad apostolaidd
nes gwelir cyflawni hanes Teyrnas Dduw. Mae’r traddodiad apostolaidd
yn yr Eglwys yn golygu parhad yn nodweddion parhaol Eglwys yr apostolion:
tystio i’r ffydd apostolaidd, datgan yr Efengyl a’i dehongli
o’r newydd, dathlu’r bedydd a’r ewcharist, trosglwyddo
cyfrifoldebau gweinidogaethol, cymundeb mewn gweddi, cariad, llawenydd
a dioddefaint, gwasanaeth i’r gwael a’r anghenus, undod
ymhlith yr eglwysi lleol a rhannu rhoddion y mae’r Arglwydd
wedi eu rhoi i bob un’. |
| 37 |
Mae gan yr Eglwys heddiw ddyletswydd, fel
yr oedd gan yr apostolion, i ddatgan yr efengyl i’r holl genhedloedd,
gan mai’r newyddion da am Iesu Grist yw’r datguddiad o
gynllun tragwyddol Duw ar gyfer cymodi popeth yn ei Fab. Gelwir ar
yr Eglwys i fod yn ffyddlon i dystiolaeth normadol apostolaidd i fywyd,
marwolaeth, atgyfodiad a dyrchafiad ei Harglwydd. Mae’r Eglwys
yn derbyn ei genhadaeth a’i grym i gyflawni’r genhadaeth
hon fel rhodd y Duw atgyfodedig. Felly mae’r Eglwys yn apostolaidd
yn ei chyfanrwydd. `Mae Apostoligrwydd yn golygu bod yr Eglwys
wedi ei hanfon gan Iesu i fod er mwyn y byd, i gymryd rhan yn ei genhadaeth
ac felly yng nghenhadaeth yr Un a anfonodd yr Iesu, i gymryd rhan
yng nghenhadaeth y Tad a’r Mab trwy ddeinamig yr Ysbryd Glân'. |
| 38 |
Mae Duw yr Ysbryd Glân yn tywallt
ei roddion ar yr Eglwys gyfan (Eff. 4: 11-13, I Cor. 12: 4-11), ac
yn codi dynion a merched, yn lleyg ac ordeiniedig, i gyfrannu at feithrin
y gymuned. Felly mae’r Eglwys gyfan, a phob aelod, yn cymryd
rhan yn y gwaith o gyfleu’r efengyl, ac yn cyfrannu at y gwaith,
trwy fynegi’n ffyddlon a’u hymgorfforiad o nodweddion
parhaol Eglwys yr apostolion mewn lle ac amser penodedig. Yn hanfodol
i’w thystiolaeth y mae, nid geiriau’n unig, ond cariad
ei haelodau at ei gilydd, ansawdd ei gwasanaeth i’r rhai anghenus,
ei defnydd o adnoddau ariannol ac adnoddau eraill, cyfiawnder ac effeitholrwydd
ei bywyd a’i dull o ddisgyblu, y ffordd y mae’n rhannu
ac ymarfer ei grym, a’i chynulliadau i addoli. Mae’r cyfan
o’r rhain yn ddulliau o gyfleu y mae’n rhaid eu canoli
ar Grist, gwir Air Duw, a deillio o fywyd yn yr Ysbryd Glân. |
| 39 |
Felly fe welir y prif fynegiad o olyniaeth
apostolaidd yn nhraddodiad apostolaidd yr Eglwys gyfan. Mae’r
olyniaeth yn fynegiant o barhauster, a thrwy hynny o barhad cenhadaeth
Crist ei hun y mae’r Eglwys yn cyfrannu ato. |
| 40 |
O fewn apostoligrwydd yr Eglwys gyfan y
mae olyniaeth apostolaidd y weinidogaeth sy’n ei gwasanaethu
ac sy’n ffocws o barhad yr Eglwys yn ei bywyd yng Nghrist a’i
ffyddlondeb i eiriau a gweithredoedd Iesu a fynegwyd gan yr apostolion.
Mae gan y weinidogaeth ordeiniedig gyfrifoldeb arbennig am dystio
i’r traddodiad hwn ac am ei ddatgan o’r newydd gydag awdurdod
ym mhob cenhedlaeth. |
| B |
Gweinidogaeth Apostolaidd |
| 41 |
Er mwyn bwydo’r Eglwys, rhoddodd
Duw y weinidogaeth apostolaidd, a sefydlwyd gan ein Harglwydd ac a
drosglwyddwyd trwy’r apostolion. Prif gyfrifoldeb y weinidogaeth
ordeiniedig yw ymgynnull a llunio corff Crist trwy ddatgan a dysgu
Gair Duw, trwy ddathlu’r sacramentau a thrwy arwain bywyd y
gymuned yn ei haddoliad, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth o
ofal. Mae dewis person ar gyfer swydd ordeiniedig am oes trwy weddi,
galw’r Ysbryd Glân ac arddodi dwylo yn atgoffa’r
Eglwys ei bod yn derbyn ei chenhadaeth gan Grist ei hun ac mae’n
mynegi ei bwriad cadarn i fyw mewn ffyddlondeb am y comisiwn a’r
rhodd honno ac mewn diolchgarwch amdani. Mae gwahanol dasgau’r
un weinidogaeth yn cael eu mynegi yn y modd y mae wedi ei strwythuro.
Daeth y weinidogaeth driphlyg o esgobion, offeiriaid a diaconiaid
yn batrwm cyffredinol i’r weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys
fore, er iddo weld newid sylweddol yn y modd y mae’n cael ei
weithredu’n ymarferol ac mae’n dal i ddatblygu heddiw. |
| 42 |
Mae amrywiaeth rhoddion Duw yn ei gwneud
yn ofynnol iddynt gael eu cydlynu fel eu bod yn cyfoethogi’r
Eglwys gyfan a’i hundod. Mae’r amrywiaeth hwn a’r
nifer fawr o dasgau sy’n rhan o’i wasanaethu yn galw am
weinidogaeth sy’n cydlynu. Dyma’r weinidogaeth o arolygu,
episcope, gofal am fywyd y gymuned gyfan, bugeilio’r bugeiliaid
a bwydo praidd Crist mewn gwirionedd, yn unol â gorchymyn Crist
ar draws yr oesoedd ac mewn undod gyda Christnogion mewn mannau eraill.
Mae episcope (arolygu) yn un o ofynion yr Eglwys gyfan ac mae ei ymarfer
yn ffyddlon yng ngoleuni’r Efengyl o bwysigrwydd sylfaenol i’w
bywyd. |
| 43 |
Cyfrifoldeb penodol yr esgob yw arolygu’r
Eglwys a’i chenhadaeth. Mae swydd yr esgob yn un o wasanaeth
a chyfathrebu yng nghymuned y credwyr, ac, ynghyd â’r
gymuned gyfan, i’r byd. Mae esgobion yn pregethu’r gair,
yn llywyddu mewn sacramentau, ac yn gweinyddu disgyblaeth yn y fath
fodd fel eu bod yn weinidogion bugeiliol yn cynrychioli arolygaeth,
parhad ac undod yn yr Eglwys. Mae ganddynt arolygaeth fugeiliol o’r
ardal y galwyd hwy iddi. Maent yn gwasanaethu apostoligrwydd, catholigiaeth
ac undod athrawiaeth, addoliad a bywyd sacramentaidd yr Eglwys. Mae
ganddynt gyfrifoldeb am arweinyddiaeth yng nghenhadaeth yr Eglwys.
Ni ddylai unrhyw un o’r tasgau hyn gael eu cyflawni yn ynysig
oddi wrth yr Eglwys gyfan. |
| 44 |
Mae gweinidogaeth arolygol yn cael ei hymarfer
yn bersonol, yn golegol ac yn gymunedol. Mae’n bersonol oherwydd
gellir dangos presenoldeb Crist ymhlith ei bobl yn fwyaf effeithiol
gan y person a ordeiniwyd i ddatgan yr efengyl a galw’r gymuned
i wasanaethu’r Arglwydd mewn undod o ran bywyd a thystiolaeth.
Mae’n golegol, yn gyntaf oherwydd bod yr esgob yn casglu at
ei gilydd y rhai a ordeiniwyd i rannu yn y gwaith o weinidogaethu
ac i gynrychioli pryderon y gymuned; yn ail, oherwydd trwy golegiaeth
yr esgobion mae’r gymuned Gristnogol mewn ardaloedd lleol yn
cael ei gysylltu gyda’r Eglwys ehangach, a’r Eglwys yn
gyffredinol i’r gymuned honno. Mae’n gymunedol, oherwydd
bod ymarfer y weinidogaeth ordeiniedig wedi ei wreiddio ym mywyd y
gymuned ac mae cyfraniad effeithiol y gymuned yn ofynnol iddo wrth
ddarganfod ewyllys Duw ac arweiniad yr Ysbryd. Yn y rhan fwyaf o’n
heglwysi heddiw mae hyn ar ffurf synodaidd. Mae’r esgobion,
gyda’r gweinidogion eraill a’r gymuned gyfan, yn gyfrifol
am drosglwyddiad trefnus awdurdod gweinidogaethol yn yr Eglwys. |
| 45 |
Mae’r agweddau personol, colegol
a chymunedol ar arolygaeth yn cael eu mynegi ar lefelau lleol, rhanbarthol
a byd-eang o fywyd yr Eglwys. |
| C |
Y Swydd Esgobol yng Ngwasanaeth
yr Olyniaeth Apostolaidd |
| 46 |
Y sail eithaf i ffyddlondeb yr Eglwys,
mewn parhad gyda’r apostolion, yw addewid yr Arglwydd a phresenoldeb
yr Ysbryd Glân wrth eu gwaith yn yr Eglwys gyfan. Rhaid deall
gweinidogaeth arolygaeth o fewn parhad y bywyd apostolaidd a chenhadaeth
yr Eglwys gyfan. Mae olyniaeth apostolaidd yn y swydd esgobol yn ffordd
weladwy a phersonol o ganolbwyntio ar apostoligrwydd yr Eglwys gyfan. |
| 47 |
Mae’r parhad mewn olyniaeth esgobol
yn cael ei fynegi yn ordeiniad neu gysegru esgob. Yn y weithred hon
mae pobl Dduw yn ymgasglu i gadarnhau’r dewis ac i weddïo
dros yr ymgeisydd a ddewiswyd. Wrth i’r esgob sy’n ordeinio
arddodi ei ddwylo, a’r cynrychiolwyr eraill weddio, mae’r
Eglwys gyfan yn galw ar Dduw mewn hyder yn Ei addewid i dywallt yr
Ysbryd Glân ar bobl ei gyfamod (Is. 11: 1-3, cf. Veni Creator
Spriritus). Mae’r weithred Feiblaidd o arddodi dwylo yn llawn
arwyddocâd. Gall olygu (ymhlith pethau eraill) ddynodi, comisiynu
neu groesawu. Fe’i defnyddir mewn amrywiol gyd-destunau: conffyrmasiwn,
cymodi, iachau ac ordeinio. Ar un llaw, trwy arddodi dwylo gyda gweddi
cydnabyddir rhodd o ras a roddwyd eisoes gan Dduw ac fe’i cadarnheir;
ar y llaw arall mae’n cael ei berffeithio ar gyfer gwasanaeth.
Pennir union arwyddocâd neu fwriad yr arddodi dwylo gan y weddi
neu’r datganiad sy’n cyd-fynd ag o. Yn achos yr esgobaeth,
mae ordeinio trwy weddi ac arddodi dwylo yn dilyn yr hyn wnaeth yr
apostolion, a’r Eglwys ar hyd yr oesoedd. |
| 48 |
Wrth gysegru esgob mae’r arwydd yn
effeithiol mewn pedair ffordd: yn gyntaf mae’n tystio i ymddiriedaeth
yr Eglwys yn ffyddlondeb Duw i’w bobl ac ym mhresenoldeb Crist,
yn ôl yr addewid, gyda’i Eglwys, trwy rym yr Ysbryd Glân,
hyd ddiwedd amser; yn ail, mae’n mynegi bwriad yr Eglwys i fod
yn ffyddlon i fenter a rhodd Duw, trwy fyw i barhau’r ffydd
a’r traddodiad apostolaidd; yn drydydd, mae cyfraniad grwp o
esgobion at arddodi dwylo yn arwydd eu bod hwy a’u heglwysi
yn derbyn yr esgob newydd a thrwy hynny gatholigrwydd yr eglwysi:
yn bedwerydd, mae’n trosglwyddo’r swydd weinidogaethol
a’i hawdurdod yn unol ag ewyllys Duw a’i ddefod. Felly
yn y weithred o gysegru mae esgob yn derbyn yr arwydd o gymeradwyaeth
ddwyfol a chomisiwn parhaol i arwain ei eglwys benodol yn ffydd gyffredin
a bywyd apostolaidd y cyfan o’r eglwysi. |
| 49 |
Ni ellir ysgaru’r parhad a fynegir
yng nghysegriad esgob i’w weinidogaeth esgobol oddi wrth barhad
bywyd a thystiolaeth yr esgobaeth y galwyd ef iddi. Yn amgylchiadau
penodol ein heglwysi, mae’r parhad a gynrychiolir gan y rhai
sy’n cymryd yr esgobaethau hanesyddol yn fwy na pharhad personol.
Mae’r gofal i gynnal patrwm esgobaethol a phlwyfol o fywyd bugeiliol
a gweinidogaeth yn adlewyrchu bwriad yr eglwysi i barhau i ymarfer
gweinidogaeth apostolaidd, trwy air a sacrament, yr eglwys fyd-eang. |
| D |
Yr Olyniaeth Esgobol Hanesyddol
fel Arwydd |
| 50 |
Mae’r Eglwys gyfan yn arwydd o Deyrnas
Dduw; mae’r weithred o ordeinio yn arwydd o ffyddlondeb Duw
i’w Eglwys, yn arbennig yng nghyswllt arolygu ei chenhadaeth.
Mae ordeinio esgob mewn olyniaeth hanesyddol (hynny yw, mewn parhad
o’r apostolion ei hunain) hefyd yn arwydd. Trwy wneud hynny
mae’r Eglwys yn mynegi ei gofal o barhad yn ei bywyd a’i
chenhadaeth gyfan, ac mae’n atgyfnerthu ei phenderfyniad i ddangos
nodweddion parhaol Eglwys yr apostolion. Er mwyn gwneud ystyr yr arwydd
yn hollol ddealladwy mae’n angenrheidiol cynnwys, yn y gwasanaeth
ordeinio, ddatganiad cyhoeddus o ffydd yr Eglwys a disgrifiad cyhoeddus
o’r weinidogaeth y galwyd yr esgob iddi. Yn y ffordd hon mae
arwydd olyniaeth esgobol hanesyddol yn cael ei osod yn glir yn ei
gyd-destun llawn o barhad datgan efengyl Crist a chenhadaeth ei Eglwys. |
| 51 |
Nid yw’r defnydd o’r arwydd
o’r olyniaeth esgobaethol hanesyddol ynddo ei hun yn gwarantu
ffyddlondeb yr eglwys i bob agwedd ar y ffydd, y bywyd a’r genhadaeth
apostolaidd. Fe fu rhaniadau yn hanes yr eglwysi sy’n defnyddio’r
arwydd o olyniaeth hanesyddol. Ac nid yw’r arwydd yn gwarantu
ffyddlondeb personol yr esgob. Ond, mae cadw’r arwydd yn parhau’n
her barhaol i ffyddlondeb ac undod, yn alwad i dystio i nodweddion
parhaol Eglwys yr apostolion ac yn gomisiwn i’w gwireddu’n
llawnach. |
| 52 |
Cludir ffyddlondeb i alwad apostolaidd
yr Eglwys gyfan gan fwy nag un dull o barhad. Felly mae eglwys sydd
wedi cadw’r arwydd o olyniaeth esgobol hanesyddol yn rhydd i
gydnabod gweinidogaeth esgobol ddilys mewn eglwys sydd wedi cadw parhad
yn y swydd esgobol trwy ordeiniad offeiriadol/presbyteraidd achlysurol
ar adeg y Diwygiad Protestannaidd. Yn yr un modd mae eglwys sydd wedi
cadw parhad trwy olyniaeth o’r fath yn rhydd i fynd i mewn i
berthynas o gyd-gyfrannu at ordeiniadau esgobol gydag eglwys sydd
wedi cadw’r olyniaeth esgobol hanesyddol, ac i groesawu’r
arwydd hwn, heb wadu ei barhad apostolaidd yn y gorffennol. |
| 53 |
Mae cyd gydnabyddiaeth o’n heglwysi
a’n gweinidogaethau yn ddiwinyddol yn dod cyn y defnydd o’r
arwydd o arddodi dwylo yn yr olyniaeth hanesyddol. Nid yw adfer y
defnydd o’r arwydd yn awgrymu beirniadaeth ar weinidogaethau’r
eglwysi hynny nad oeddynt yn defnyddio’r arwydd cyn hyn. Yn
hytrach mae’n ffordd o wneud undod a pharhad yr Eglwys yn fwy
gweladwy bob amser ym mhob man. |
| 54 |
I’r graddau y mae ein gweinidogaethau
wedi cael eu gwahanu mae ein holl eglwysi wedi bod yn ddiffygiol o’r
llawnder hwnnw y mae Duw yn ei geisio gan ei bobl (Eff. 1: 23 a 3:
17-19). Trwy symud gyda’n gilydd, a thrwy gael ein gwasanaethu
gan weinidogaeth esgobol sydd wedi cymodi ac sy’n cydnabod ei
gilydd, bydd ein heglwysi yn fwy ffyddlon i’w galwad a hefyd
yn fwy ymwybodol o’u hangen am adnewyddiad. Trwy rannu ein bywydau
a’n gweinidogaeth mewn undod sy’n weladwy nes, byddwn
yn cael ein cryfhau ar gyfer parhau cenhadaeth Crist yn y byd. |
| E |
Cyfnod Newydd |
| 55 |
Trwy nodweddion pellgyrhaeddol ein cytundeb
a nodwyd yn y paragraffau blaenorol mae’n amlwg ein bod wedi
cyrraedd cyfnod yn ein taith gyda’n gilydd mewn ffydd. Rydym
wedi cytuno ar natur a diben yr eglwys (Pennod II),
ar ei ffydd a’i hathrawiaeth (Pennod III),
yn benodol ar apostoligrwydd yr Eglwys gyfan, ar y weinidogaeth apostolaidd
o’i mewn, ac ar y swydd esgobol yng ngwasanaeth yr Eglwys (Pennod
IV). |
| 56 |
Ar sail y cytundeb hwn credwn |
| |
|
y dylai ein heglwysi gydnabod ei gilydd yn hyderus fel eglwysi a
mynd i mewn i berthynas newydd; |
| |
|
bod pob eglwys ar y cyfan wedi cynnal olyniaeth apostolaidd ddilys
mewn tystiolaeth a gwasanaeth (IV A); |
| |
|
bod gweinidogaeth o air a sacrament trwy weddi ac arddodi dwylo
wedi ei drosglwyddo i bob eglwys (IV B); |
| |
|
bod pob eglwys wedi cynnal olyniaeth drefnus o weinidogaeth esgobol
o fewn parhad ei bywyd bugeiliol, wedi ei ganolbwyntio yng nghysegriad
esgobion ac ym mhrofiad a thystiolaeth yr esgobaethau hanesyddol (IV
C). |
| 57 |
Yng ngoleuni hyn i gyd gwelwn fod yr amser
wedi dod pryd y gall pob un o’n heglwysi gadarnhau gyda’n
gilydd werth a defnydd yr arwydd o’r olyniaeth hanesyddol (IV
D). Mae hyn yn golygu bod yr eglwysi hynny lle na fu’r arwydd
yn cael ei ddefnyddio ar ryw adeg yn rhydd i gydnabod gwerth yr arwydd
ac y dylent ei groesawu heb wadu eu parhad apostolaidd eu hunain.
Mae hyn yn golygu hefyd bod yr eglwysi hynny lle mae’r arwydd
wedi ei ddefnyddio yn rhydd i gydnabod realiti y swydd esgobaethol
ac y dylai gadarnhau parhad apostolaidd yr eglwysi hynny lle na ddefnyddiwyd
yr arwydd o olyniaeth esgobol ar ryw adeg. |