| 29 |
Nid yw Anglicaniaid Prydain ac Iwerddon
a Lwtheriaid y gwledydd Nordig a Baltig erioed wedi condemnio ei gilydd
fel eglwysi ac nid ydynt erioed wedi gwahanu’n ffurfiol. Ond
mae gwireddu ymdeimlad dyfnach o gymundeb yn sicr yn ddymunol, ac
mae’n ymddangos yn bosibl yn awr, heb wadu’r amrywiaeth
priodol a ffrwythlon sydd wedi datblygu, dros amser, yn ffordd wahanol
o gyffesu a mynegi ein ffydd. Tueddodd Anglicaniaid i bwysleisio pwysigrwydd
litwrgi fel mynegi ffydd yr Eglwys. Tueddodd yr Lwtheriaid, heb wadu
hyn, i roi mwy o bwyslais ar gyffesu athrawiaethol. Mae’r ddwy
eglwys, fodd bynnag, yn gweld cysylltiad agos rhwng lex orandi a lex
credendi. Cynhyrchwyd Cyffes Augsburg a’r 39 Erthygl Crefydd
mewn amgylchiadau gwahanol i fodloni anghenion gwahanol, ac nid ydynt
yn chwarae rôl sy’n cyfateb yn union ym mywydau’r
eglwysi. Maent yn cynnwys llawer o ddatganiadau cyffredin ac maent
yn dwyn tystiolaeth gyffredin i ffydd yr Eglwys trwy’r oesoedd.
Trwy adeiladu ar y sylfaen hwn, mae cyswllt ecwmenaidd modern a chyfnewid
wedi helpu’n sylweddol i egluro rhai cwestiynau oedd yn parhau,
gan ddwyn i’r golwg yn fwy manwl y graddau yr ydym yn cadw dealltwriaeth
gyffredin o natur a diben yr Eglwys a chytundeb sylfaenol ar ffydd.
Gelwir arnom yn awr i frawdoliaeth ddyfnach, at gamau newydd ar y
ffordd tuag at undod gweladwy a chysondeb newydd yn ein tystiolaeth
gyffredin mewn gair a gweithred i un Arglwydd, un ffydd ac un bedydd. |
| 30 |
I’r diben hwn, rydym yn nodi’r
cytundeb sylweddol mewn ffydd sy’n bodoli rhyngom. Yma rydym
yn tynnu ar Fedydd, Cymun a Gweinidogaeth (testun Lima) ac ymatebion
swyddogol ein heglwysi i’r testun hwnnw. Rydym hefyd yn tynnu
ar ymdrechion blaenorol i fanylu ar ystod a natur y cytundeb Anglicanaidd
Lwtheraidd. Mae’r rhain yn cynnwys Adroddiad Pullach 1973, Adroddiad
Helsinki 1983, Adroddiad Cold Ash 1983, Oblygiadau’r Efengyl
1988, Datganiad Cyffredin Meissen 1988 ac Adroddiad Niagra 1988. Mae’r
holl destunau hyn yn tystio i undod sylweddol mewn ffydd rhwng Anglicaniaid
a Lwtheriaid. Rydym wedi cael budd o’r olwg a rydd y testunau
hyn fel cyfraniad at ein cytundeb mewn ffydd. Ymhellach, rydym wedi
gwneud defnydd sylweddol o ganlyniadau y deialogau Anglicanaidd –
Gatholig a Chatholig – Lwtheraidd. |
| 31 |
Cadarnhawyd y cytundeb mewn ffydd a gyrhaeddwyd
yn y testunau Anglicanaidd Lwtheraidd ym mhenderfyniad Cynhadledd
Lambeth ym 1988, lle ceir datganiad bod y Gynhadledd |
| |
|
‘yn cydnabod, ar sail y graddau mawr o gonsensws a gyrhaeddwyd
mewn deialogau rhyngwladol, rhanbarthol a chenedlaethol rhwng Anglicaniaid
a Lwtheriaid ac yng ngoleuni’r cymundeb wedi ei ganoli ar Air
a Sacrament a brofwyd yn nhraddodiadau ein gilydd, bresenoldeb Eglwys
Iesu Grist yn y Cymundeb Lwtheraidd fel yn ein hun ninnau.’
|
| |
Gwelir cadarnhad cyfatebol mewn penderfyniad
gan Wythfed Cynulliad y Ffederasiwn Byd Lwtheraidd yn Curitiba yn
Chwefror 1990: |
| |
|
‘Penderfyna’r Cynulliad hwn bod yr LWF yn adnewyddu
ei ymrwymiad i’r nod o gymundeb llawn gydag eglwysi’r
Cymundeb Anglicanaidd, a’i fod yn annog eglwysi sy’n aelodau
o’r LWF i gymryd camau addas i wireddu hyn ….bod yr LWF
yn nodi yn ddilchgar y camau tuag at frawdoliaeth eglwysig gyda’n
cymheiriaid cenedlaethol/rhanbarthol y mae eglwysi sy’n aelodau
o’r LWF wedi medru eu cymryd yn barod a’i fod yn eu hannog
i barhau.’ |
| 32 |
Yma rydym yn datgan yn gryno o’r
prif gredoau ac arferion sy’n gyffredin i ni: |
| |
a |
Ein bod yn derbyn ysgrythurau canonaidd yr Hen Destament a’r
Newydd i fod yn gofnod a thystiolaeth ddigonol, ysbrydoledig ac awdurdodol,
yn broffwydol ac apostolaidd o ddatguddiad Duw yn Iesu Grist. Darllenwn
yr Ysgrythurau fel rhan o addoliad cyhoeddus yn iaith y bobl, gan
gredu bod Gair Duw yn yr Ysgrythurau gan dystio i’r efengyl
bod bywyd tragwyddol yn cael ei gynnig i ddynoliaeth gyfan, a’u
bod yn cynnwys popeth sy’n angenrheidiol ar gyfer achubiaeth. |
| |
b |
Credwn fod ewyllys Duw a’i orchmynion yn hanfodol i ddatganiad,
ffydd a bywyd Cristnogol. Mae gorchymyn Duw yn ein hymrwymo i garu
Duw a’n cymydog, ac i fyw a gwasanaethu i’w foli a’i
ogoniant ef. Ar yr un pryd mae gorchymyn Duw yn datguddio ein pechodau
ni a’n hangen cyson am ei drugaredd. |
| |
c |
Credwn yn yr efengyl ac rydym yn datgan, yn Iesu Grist fod Duw yn
caru ac yn achub y byd. Rydym yn ‘rhannu dealltwriaeth gyffredin
o ras cyfiawnhaol Duw, h.y. ein bod yn cael ein cyfrif yn gyfiawn
a’n bod yn cael ein gwneud yn gyfiawn gerbron Duw gan ras trwy
ffydd yn unig oherwydd rhinweddau ein Harglwydd a’n Hachubwr
Iesu Grist, ac nid ar gyfrif ein gwaith na’n rhinweddau ni…Mae
ein dau draddodiad yn cadarnhau bod cyfiawnhad yn arwain, ac yn gorfod
arwain at “weithredoedd da”; mae ffydd wirioneddol yn
deillio o gariad’. Derbyniwn yr Ysbryd Glân sy’n
adnewyddu ein calonnau ac sy’n ein harfogi ar gyfer gweithredoedd
da ac yn ein galw i’w cyflawni. Fel y mae cyfiawnhad a sancteiddio
yn agweddau ar yr un weithred ddwyfol, felly hefyd y mae ffydd fyw
a chariad yn anwahanadwy yn y credadun. |
| |
d |
Derbyniwn ffydd yr Eglwys trwy’r oesoedd a nodir yn y Niceno-Constantinopolitan
a Chredoau’r Apostolion a chyffeswn y dogmâu trindodol
a Christionogol sylfaenol y mae’r credoau hyn yn tystio iddynt.
Hynny yw, credwn fod Iesu o Nasareth yn wir Dduw a gwir Ddyn, a bod
Duw yn un Duw mewn tri pherson, Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Cadarnheir
y ffydd hon yn glir yn y Tri Deg Naw Erthygl o Grefydd, ac yng Nghyffes
Augsburg. |
| |
e |
Cyffeswn a dathlwn y ffydd apostolaidd mewn addoliad litwrgïaidd.
Cydnabyddwn bod yn y litwrgi ddathliad o’r achubiaeth trwy Grist
ac elfen sylweddol o’r gwaith o ffurfio’r consensus fidelium.
Ymfalchïwn ym maint ein ‘traddodiad cyffredin o ysbrydolrwydd,
litwrgi a bywyd sacramentaidd’ sydd wedi rhoi i ni ffurfiau
tebyg o addoliad a thestunau, emynau, cantiglau a gweddïau cyffredin.
Dylanwadir arnom gan adnewyddiad litwrgïaidd cyffredin a gan
yr amrywiaeth o fynegiant a ddangosir mewn gwahanol sefyllfaoedd diwylliannol. |
| |
f |
Credwn fod yr Eglwys wedi ei sefydlu a’i chynnal gan y Duw
Triunol trwy weithred achubol Duw mewn gair a sacramentau. Credwn
fod yr Eglwys yn arwydd, offeryn a rhagflas o Deyrnas Dduw. Ond rydym
hefyd yn cydnabod bod angen ei diwygio a’i hadnewyddu yn gyson. |
| |
g |
Credwn fod Duw trwy fedydd gyda dwr yn enw’r Drindod yn uno’r
un a fedyddir gyda marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist, yn derbyn
i’r Un Eglwys, Sanctaidd, Gatholig ac Apostolaidd, gan roi’r
rhodd raslon o fywyd newydd yn yr Ysbryd. Gan ein bod ni yn yr eglwysi
yn arfer ac yn rhoi gwerth ar fedyddio babanod rydym hefyd yn cymryd
yn ddifrifol ein tasg gatechetigal ar gyfer meithrin plant a fedyddir
i ymroddiad aeddfed i Grist. Yn ein holl draddodiadau dilynir y bedydd
gan ddefod o dderbyn. Rydym yn cydnabod dau arfer yn ein heglwysi,
y ddau a chynsail mewn canrifoedd blaenorol: mewn eglwysi Anglicanaidd,
bedydd esgob; yn yr eglwysi Nordig a Baltig, conffyrmasiwn yn cael
ei weinyddu gan offeiriad lleol fel arfer. Yn ein holl eglwysi mae
hyn yn cynnwys ymbiliad ar y Duw Triunol, adnewyddu’r proffesiwn
bedydd o ffydd a gweddi y bydd yr ymgeisydd trwy adnewyddu gras y
bedydd yn cael ei gryfhau yn awr ac am byth. |
| |
h |
Credwn fod corff a gwaed Crist yn wir yn bresennol, wedi ei rannu
a’i dderbyn ar ffurf bara a gwin yn y Swper Olaf (Ewcharist).
Yn y ffordd hon rydym yn derbyn corff a gwaed Crist, croeshoeliedig
ac atgyfodedig, ac ynddo ef faddeuant pechodau a phob budd arall ddaw
o’i ddioddefaint. Nid yw’r coffâd ewcharistaidd
yn galw i gof ddigwyddiad o’r gorffennol na’i arwyddocâd,
ond mae’n ddatganiad effeithiol gan yr Eglwys o weithredoedd
nerthol Duw. Er na allwn gynnig aberth teilwng i Dduw, mae Crist yn
ein huno ni gydag o yn ei hunan aberth i’w Dad, yr un aberth,
llawn, perffaith a digonol y mae ef wedi ei gynnig i ni i gyd. Yn
yr ewcharist mae Duw ei hun yn gweithredu, gan roi bywyd i gorff Crist
ac adnewyddu pob aelod. Trwy ddathlu’r ewcharist, mae’r
eglwys yn cael ei hailsefydlu a’i bwydo, ei chryfhau mewn ffydd
a gobaith, mewn tystiolaeth a gwasanaeth mewn bywyd dyddiol. Yma mae
gennym eisoes ragflas o lawenydd tragwyddol Teyrnas Dduw. |
| |
i |
Credwn fod holl aelodau’r eglwys yn cael eu galw i gymryd
rhan mewn cenhadaeth apostolaidd. Felly mae pawb a fedyddiwyd yn cael
rhoddion amrywiol a gweinidogaethau gan yr Ysbryd Glân. Gelwir
hwy i gynnig eu bodolaeth fel `aberth byw' ac i eirioli dros yr Eglwys
ac achubiaeth y byd. Dyma yw offeiriadaeth gyfun holl bobl Duw a’r
galwad i weinidogaeth a gwasanaeth (I Pedr 2: 5). |
| |
j |
Credwn, o fewn cymuned yr Eglwys, bod gweinidogaeth ordeiniedig
yn bodoli i wasanaethu gweinidogaeth holl bobl Dduw. Daliwn fod y
swydd o weinidogaeth ordeiniedig y gair a’r sacrament yn swydd
o sefydliad dwyfol ac fel y cyfryw yn rhodd gan Dduw i’w Eglwys.
Mae gweinidogion ordeiniedig yn gysylltiedig, fel y mae pob Cristion,
ag offeiriadaeth Crist a gydag offeiriadaeth yr Eglwys. Mae’r
unoliaeth sylfaenol hon y weinidogaeth ordeiniedig yn cael ei fynegi
yng ngwasanaeth gair a sacrament. Ym mywyd yr Eglwys, mae’r
undod hwn wedi cymryd ffurf wahaniaethol. Daeth y weinidogaeth driphlyg
o esgob, offeiriad a diacon yn batrwm cyffredinol yn yr Eglwys yn
y canrifoedd cynnar ac fe’i cedwir gan lawer o eglwysi, er yn
rhannol yn aml. `Gall gweinidogaeth driphlyg yr esgob, yr offeiriad
a’r diacon wasanaethu heddiw fel mynegiad o’r undod a
geisiwn a hefyd fel modd o’i gyflawni’. |
| |
k |
Credwn fod gweinidogaeth fugeiliol (episcope), wedi ei hymarfer
mewn ffyrdd personol, colegol a chyfundebol yn angenrheidiol fel tystiolaeth
o undod ac apostoligrwydd yr Eglwys ac i’w warchod. Ymhellach
cadwn a defnyddiwn y swydd esgobol fel arwydd o’n bwriad, yn
Nuw, i sicrhau parhad yr Eglwys mewn bywyd a thystiolaeth apostolaidd.
Oherwydd y rhesymau hyn, mae gan ein holl eglwysi swydd esgobaethol
a ymarferir yn bersonol. |
| |
l |
Rhannwn obaith cyffredin yn nyfodiad terfynol Teyrnas Dduw, a chredwn
yn y persbectif diwethfaol hwn y gelwir arnom i weithio yn awr er
mwyn hybu cyfiawnder, i geisio heddwch ac i ofalu am y byd a grëwyd.
Ymrwymiadau’r Deyrnas yw llywodraethu ein bywyd yn yr Eglwys
a’n gofal am y byd. `Y ffydd Gristnogol yw bod Duw wedi
llunio heddwch trwy Iesu "trwy waed ei groes" (Col. 1: 20),
a thrwy hynny sefydlu yr un ganolfan ddilys ar gyfer undod y teulu
dynol cyfan’. |
| 33 |
Mae’r crynodeb hwn yn tystio i raddau
helaeth i undod mewn ffydd ac athrawiaeth. Tra nad yw hyn yn ei gwneud
yn ofynnol i bob traddodiad dderbyn pob nodwedd athrawiaethol o’n
traddodiadau gwahanol, mae’n ei gwneud yn ofynnol i ni wynebu
a goresgyn y rhwystrau sy’n weddill i atal cymundeb a fydd yn
nes eto. |