| A |
Teyrnas Dduw a Dirgelwch a Diben
yr Eglwys |
| 14 |
Mae ein cynfod ni yn mynnu rhywbeth newydd
gennym ni fel eglwysi. Mae i’n cytundeb, fel y’i nodir
yn y testun hwn, am natur yr Eglwys a’i hundod oblygiadau i’r
ffyrdd yr ydym yn ymateb i her ein hoes. Daethom i weld yn gliriach
nad ydym yn ddieithriaid i’n gilydd, ond ‘cyd-ddinasyddion
â’r saint ac aelodau o deulu Duw…wedi eich adeiladu
ar sylfaen yr apostolion a’r proffwydi, a’r conglfaen
yw Crist Iesu ei hun’. (Eff. 2: 19-20). Trwy rodd gras
Duw fe’n tynnwyd ni i gwmpas ewyllys Duw i gymodi ag ef ei hun
bopeth y mae ef wedi ei wneud a’i gynnal (II Cor 5: 17-19),
i ryddhau’r greadigaeth rhag pob caethiwed (Rhuf. 8: 19-22)
ac i dynnu popeth i undod gydag Ef ei hun (Eff. 1:9f). Diben a chenhadaeth
eithaf Duw yng Nghrist yw adfer ac adnewyddu popeth a wnaeth, dyfodiad
y Deyrnas yn ei llawnder. |
| 15 |
I’n dwyn i undod gydag Ef ei hun,
anfonodd y Tad ei Fab, Iesu Grist i’r byd. Trwy fywyd, marwolaeth
ac atgyfodiad Crist, datgelir cariad Duw ac fe’n hachubir ni
rhag pwerau pechod a marwolaeth (Ioan 3: 16-18). Trwy ras a dderbynnir
trwy ffydd rhoddir ni yn y berthynas iawn â Duw. Dygir ni o
farwolaeth i fywyd newydd (Rhuf. 6: 1-11), genir ni drachefn, gwneir
ni yn feibion a merched mabwysiedig a rhyddheir ni i fywyd yn yr Ysbryd
(Gal. 4:5, Rhuf. 8: 14-17). Dyma galon datganiad efengyl yr Eglwys
a thrwy’r datganiad hwn mae Duw yn casglu ei bobl ynghyd. Ym
mhob oes ers y cyfnod apostolaidd diben yr Eglwys fu datgan yr efengyl
hon mewn gair a gweithred: ‘Yr hyn yr ydym wedi ei weld
a’i glywed, yr ydym yn ei gyhoeddi i chwi hefyd, er mwyn i chwithau
gael cymundeb(koinonia) â ni. Ac yn wir, y mae ein cymundeb
(koinonia) ni gyda’r Tad a chydai Fab ef, Iesu Grist’
(I Ioan 1:3). |
| 16 |
Ffydd yw’r gydnabyddiaeth a ddaw
gan Dduw fod y golau wedi dod i’r byd, bod y Gair wedi ei wneud
yn gnawd a byw yn ein plith a’i fod wedi rhoi’r hawl i
ni i ddod yn blant i Dduw (Ioan 1:1-13). Daw ffydd, fel bywyd mewn
cymundeb â’r Duw sy’n drindod, â ni i mewn
i fywyd cyffredin yr Eglwys, Corff Crist, a’n cynnal a’n
maethu ynddo. Y rhodd o faddeuant sydd yn ein rhyddhau o gaethiwed
pechod ac o’r pryder o geisio cyfiawnhau ein hunain, gan ein
rhyddhau i fywyd o ddiolchgarwch, cariad a gobaith. Trwy ras rydym
wedi’n hachub, trwy ffydd (Eff. 2:8). |
| 17 |
Gelwir ni gan yr efengyl i’r bywyd
hwn o gymundeb gyda Duw a gyda’n gilydd (koinonia).
Trwy fedydd mae’r Ysbryd Glân yn ein huno ni â Christ
yn ei farwolaeth a’i atgyfodiad (Rhuf. 6: 1-11; I Cor. 12:13);
yn y cymun cawn ein bwydo a’n cynnal fel aelodau o un Corff
trwy gymryd corff a gwaed Crist (I Cor. 10:16f). Mae’r Eglwys
a’r efengyl felly yn gysylltiedig â’i gilydd. Deillia’r
ffydd yn Iesu, y Crist, fel sylfaen teyrnas Dduw o ddatganiad gweladwy
a chlywadwy o’r efengyl mewn gair a sacramentau. Ac nid oes
ddatganiad o’r gair a’r sacramentau heb gymuned a’i
gweinidogaeth. Felly, sefydlir cymundeb yr Eglwys trwy ddatganiad
y gair a dathliad y sacramentau, a wasanaethir gan y weinidogaeth
ordeiniedig. Trwy’r rhoddion hyn mae Duw yn creu a chynnal yr
Eglwys gan roi genedigaeth yn ddyddiol i ffydd, cariad a bywyd newydd. |
| 18 |
Rhaid gweld yr Eglwys, fel cymundeb, fel
rhan allweddol o ddiben eithaf Duw. Mae’n bodoli er gogoniant
Duw i wasanaethu, yn ufudd i genhadaeth Crist, y gwaith o gymodi dynoliaeth
a’r holl greadigaeth (Eff. 1:10). Felly mae’r Eglwys yn
cael ei hanfon i’r byd fel arwydd, offeryn a rhagflas o’r
realiti a ddaw o du hwnt i hanes, Teyrnas Dduw. Mae’r Eglwys
yn ymgorffori dirgelwch achubiaeth, dyneiddiaeth newydd wedi ei chymodi
â Duw a gyda’i gilydd trwy Iesu Grist (Eff. 2:14, Col.
1: 19-27). Trwy ei gweinidogaeth o wasanaeth a datgan mae’n
dangos realiti’r Deyrnas; ac yng ngrym yr Ysbryd Sanctaidd mae’n
cymryd rhan yn y genhadaeth ddwyfol yr anfonodd y Tad y Mab i achub
y byd trwyddi (I Ioan 4: 14, cf Ioan 3:17). |
| 19 |
Mae’r Ysbryd Glân yn rhoi rhoddion
amrywiol i’r gymuned. Mae’r rhain er budd pawb o’r
bobl ac fe’i dangosir mewn gweithredoedd sydd o wasanaeth i’r
gymuned ac i’r byd. Gelwir ar yr holl aelodau i ddarganfod,
gyda chymorth y gymuned, y rhoddion y maent wedi eu derbyn a’u
defnyddio i adeiladu’r Eglwys ac er gwasanaeth i’r byd
yr anfonwyd yr Eglwys iddo. |
| 20 |
Mae’r Eglwys yn realiti dwyfol, yn
sanctaidd ac yn codi tu hwnt i realiti cyfyngedig y presennol; ar
yr un pryd, fel sefydliad dynol, mae’n rhannu natur doredig
y gymuned ddynol yn ei amwysedd a’i gwendid. Gelwir ar yr Eglwys
i edifarhau, diwygio ac adnewyddu bob amser, a rhaid iddi ddibynnu
ar faddeuant a thrugaredd Duw yn gyson. Mae’r Ysgrythurau yn
cynnig darlun o Eglwys sy’n byw yng ngoleuni’r Efengyl: |
| |
|
mae’n Eglwys sydd wedi ei gwreiddio a’i sylfaenu ar
gariad a gras yr Arglwydd Grist; |
| |
|
mae’n Eglwys sydd bob amser yn llawen, yn gweddïo’n
gyson gan roi diolch hyd yn oed yng nghanol dioddefaint; |
| |
|
mae’n Eglwys bererinol, yn bobl Dduw gyda dinasyddiaeth nefol,
yn genedl sanctaidd ac yn offeiriadaeth frenhinol; |
| |
|
mae’n Eglwys sy’n cyffesu’r ffydd apostolaidd
mewn gair a bywyd, y ffydd sy’n gyffredin i’r Eglwys gyfan
ym mhob man a phob amser; |
| |
|
mae’n Eglwys gyda chenhadaeth i bob hil a chenedl, yn pregethu’r
efengyl, yn datgan maddeuant pechodau, yn bedyddio ac yn dathlu’r
cymun; |
| |
|
mae’n Eglwys a wasanaethir gan weinidogaeth apostolaidd ordeiniedig,
a anfonwyd gan Dduw i gasglu a bwydo pobl Dduw ym mhob man, gan eu
huno a’u cysylltu â’r Eglwys fyd-eang yng nghymundeb
yr holl saint; |
| |
|
mae’n Eglwys sy’n dangos, trwy ei chymundeb gweladwy,
rym Duw i iachau ac uno ymhlith rhaniadau dynolryw; |
| |
|
mae’n Eglwys y mae clymau ei chymundeb yn ddigon cryf i’w
galluogi i ddwyn tystiolaeth effeithiol yn y byd, i warchod a dehongli’r
ffydd apostolaidd, i wneud penderfyniadau, i ddysgu’n awdurdodol,
ac i rannu ei nwyddau gyda’r rhai sy’n anghenus; |
| |
|
mae’n Eglwys sy’n fyw a pharod i ymateb i’r gobaith
y mae Duw wedi ei osod ger ei bron, i gyfoeth a gogoniant y gyfran
y mae Duw wedi ei gynnig iddi yn etifeddiaeth ei bobl, ac i anferthedd
adnoddau grym Duw i’r rhai sy’n ymddiried ynddo. |
| |
Nid yw’r darlun hwn o’r Eglwys
yn gyflawn mewn unrhyw ffordd; ond mae’n gosod her i’n
heglwysi i ffyddlondeb ein bywydau a gyda’r angen parhaus am
edifeirwch ac adnewyddu. |
| B |
Natur Cymundeb a’r Nod o
Undod |
| 21 |
Mae’r Ysgrythurau’n darlunio
undod yr Eglwys fel cymundeb llawen gyda’r Tad a gyda’i
fab Iesu Grist (cf. I Ioan 1:1-10), yn ogystal â chymundeb ymhlith
ei haelodau. Mae’r Iesu’n gweddïo y gall y disgyblion
fod yn un fel y mae’r Tad ynddo ef ac y mae ef yn y Tad, fel
bod y byd yn medru credu (Ioan 17:21). Gan fod undod yr Eglwys wedi
ei wreiddio ym mherthynas ddirgelaidd personoliaethau’r Drindod,
mae’r undod hwn yn perthyn o angenrheidrwydd i’w natur.
Trafodir undod Corff Crist yng nghyswllt ‘un Ysbryd, ….un
gobaith…, un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i
bawb’ (Eff. 4: 4-6). Ni ddylid ystyried cymundeb rhwng
Cristnogion ac eglwysi fel cynnyrch llwyddiant dyn. Mae eisoes wedi
ei roi yng Nghrist fel rhodd i’w derbyn, a ‘fel pob
rhodd dda, daw undod hefyd gan y Tad trwy’r Mab yn yr Ysbryd
Glân’. |
| 22 |
O’i ystyried yng ngoleuni hyn, rhaid
gweld diffyg undod fel sefyllfa anomalaidd. Er gwaethaf ein pechodau
a’n rhwygiadau, mae’r undod yr ydym wedi ein galw ato
eisoes wedi dechrau dod i’r amlwg yn yr Eglwys. Rhaid iddo gael
ei ymgorffori’n fwy gweladwy ar ffurf drefnus, fel bod yr Eglwys
yn cael ei gweld, trwy’r Ysbryd Glân, fel un Corff Crist
ac yn arwydd, offeryn a rhagflas o’r Deyrnas. O’r safbwynt
hwn dros dro y mae’r holl ddarpariaethau enwadol presennol. |
| 23 |
Ond ni ddylid cymysgu rhwng undod gweladwy
ac unffurfiaeth. ‘Nid yw undod yng Nghrist yn bodoli er
gwaethaf ac i wrthwynebu amrywiaeth; ond fe’i rhoddir gyda ac
mewn amrywiaeth’ . Oherwydd bod yr amrywiaeth yma yn cyfateb
i’r llaweroedd o roddion a roddodd yr Ysbryd Glân i’r
Eglwys, mae’n gysyniad sydd o bwysigrwydd eglwysig sylfaenol,
sy’n berthnasol i bob agwedd ar fywyd yr Eglwys, ac nid yw’n
oddefiad syml i amleglwysiaeth ddiwinyddol. Mae undod ac amrywiaeth
yr Eglwys, ill dau, wedi ei sylfaenu yn y pen draw ar gymundeb Duw
y Drindod Santaidd. |
| 24 |
Gwasanaethir y gwaith o gynnal undod ac
amrywiaeth gan rwymedigaethau cymundeb. Dangosir y cymundeb gyda Duw
a gyda chyd gredwyr yn yr un bedydd mewn ymateb i’r pregethu
apostolaidd; yng nghyffes gyffredin y ffydd apostolaidd; yn nathliad
unedig y cymun sy’n adeiladu un corff Crist; ac mewn gweinidogaeth
sengl a osodir ar wahân trwy weddi ac arddodi dwylo. Dangosir
yr undod hwn hefyd fel cymundeb mewn cariad, gan awgrymu bod Cristnogion
wedi eu cysylltu â’i gilydd mewn perthynas ymroddedig
gyda chyfrifoldebau i bawb, nwyddau ysbrydol cyffredin a’r ymrwymiad
i rannu adnoddau bydol. Eisoes yn yr Actau gallwn weld y cysylltiadau
hyn: ‘Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air [Pedr]…Yr
oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas,
yn y torri bara ac yn y gweddïau…Yr oedd yr holl gredinwyr
ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin’ (Actau 2: 41 ymlaen). |
| 25 |
Yn naratif yr Actau mae’r rhannu
bywyd cyffredin hwn yn cael ei wasanaethu gan y weinidogaeth apostolaidd.
Rhoddir darlun i ni o’r modd y mae’r weinidogaeth hon
yn meithrin cyfoeth yr amrywiaeth tra’n cynnal undod hefyd.
Trwy genhadaeth yr apostolion Paul a Phedr, bedyddir y cenhedloedd
hefyd. Wrth wynebu bygythiad rhaniadau, caiff y penderfyniad radical
hwn ei gadarnhau wrth i’r Eglwys ddod at ei gilydd i gyngor
(Actau 15). Yma darlunnir rôl arweinwyr apostolaidd a’u
lle o fewn cynghorau’r Eglwys. |
| 26 |
Disgrifiwyd dealltwriaeth o’r fath
o gymundeb yn y geiriau canlynol:
‘Gwireddir undod yr Eglwys a roddwyd yng Nghrist ac a wreiddiwyd
yn y Duw triunol yn ein hundod yn y gair a ddatganir, y sacramentau
a’r weinidogaeth a sefydlwyd gan Dduw ac a roddir trwy ordeinio.
Mae’n cael ei fyw yn undod y ffydd yr ydym yn dyst iddo gyda’n
gilydd, ac yr ydym yn ei gyffesu a’i ddysgu gyda’n gilydd,
ac yn undod y gobaith a’r cariad sy’n ein harwain i uno
mewn brawdoliaeth hollol ymroddedig. Rhaid i undod gael ffurf allanol
weladwy sy’n medru cwmpasu yr elfen o wahaniaeth mewnol ac amrywiaeth
ysbrydol yn ogystal â’r elfen o newid a datblygiad hanesyddol.
Dyma undod brawdoliaeth sy’n cwmpasu pob amser a lle ac y gelwir
arni i dystio a gwasanaethu’r byd.’ |
| 27 |
Eisoes yn y Testament Newydd gwelir sgandal
y rhwygiadau ymhlith Cristnogion (I Cor. 1: 11-13, I Ioan 2: 18-19).
Rhaid i eglwysi nad ydynt yn allanol yn unedig, am resymau hanesyddol
neu trwy wahaniadau bwriadol, oherwydd eu ffydd, weithio a gweddïo
am adfer yr undod gweladwy a dyfnhau eu brawdoliaeth ysbrydol. Gosodwyd
o flaen yr Eglwys y weledigaeth o undod fel nod yr holl greadigaeth
(Eff. 1) pan fydd y byd cyfan wedi cymodi â Duw (II Cor: 5).
Cymundeb felly yw ffrwyth iachawdwriaeth ac o angenrheidrwydd mae’n
wirionedd diwethfaol. Ni all Cristnogion fyth ddioddef diffyg undod.
Rhaid iddynt nid yn unig warchod a chynnal, ond hefyd hyrwyddo a meithrin
y graddau eithaf posibl o gymundeb rhwng ac o fewn eglwysi. |
| 28 |
Mae i lefel o’r fath o gymundeb amrywiaeth
o agweddau sy’n gyd-gysylltiedig. Mae’n golygu cytundeb
mewn ffydd ynghyd â dathliad cyffredin ar y sacramentau, yn
cael ei gynnal gan weinidogaeth unedig a ffurfiau ar ymgynghori colegol
a chynghorol mewn materion o ffydd, bywyd a thystiolaeth. Efallai
y bydd yn rhaid ymgorffori’r mynegiant hwn o gymundeb yng nghyfraith
a rheolau’r Eglwys. Er budd llawnder y cymundeb rhaid i’r
holl agweddau gweladwy hyn o fywyd yr Eglwys gael eu trwytho mewn
cymundeb ysbrydol dwys, tyfu ynghyd mewn ffordd o feddwl sy’n
gyffredin, pryder am ein gilydd a phryder am undod (Phil. 2: 2). |