| A |
Cyfle Newydd |
| 1 |
Trwy arweiniad graslon Duw mae Anglicaniaid a Lwtheriaid
ar draws y byd yn rhannu gyda’i gilydd mewn cenhadaeth a gwasanaeth,
ac yn darganfod faint sydd ganddynt yn gyffredin. Yn Ewrop mae ein
heglwysi wedi byw ochr yn ochr mewn gwledydd gwahanol am ganrifoedd.
Am gryn amser mae ein heglwysi wedi cadw caplaniaeth yng ngwledydd
ei gilydd, sydd o bwysigrwydd cynyddol gyda’r cynnydd yn symudoledd
pobl rhwng eglwysi. Pan fydd y ddau draddodiad eglwysig yn bodoli
yn yr un lle, fel yng Ngogledd America a De a Dwyrain Affrica, datblygodd
perthynas newydd a gwelwyd cytundebau lleol. Ar yr un pryd mae mwy
o agosatrwydd yn datblygu rhwng Anglicaniaid a Lwtheriaid Ewrop, sy’n
ein darbwyllo fod yr amser wedi dod i ni adolygu a diwygio’r
cytundebau presennol. |
| 2 |
Nid yw’r cytundebau hyn, sy’n caniatáu
gwahanol raddau o gymuno, wedi cael eu gweithredu’n llawn. Er
enghraifft, ataliodd sefyllfa wleidyddol y Gwladwriaethau Baltig iddynt
gael eu gweithredu’n effeithiol am hanner can mlynedd o 1939
hyd 1989. Mae’r cytundebau’n amrywio’n fawr oherwydd,
yn y gorffennol, mae’r Anglicaniaid wedi gwahaniaethu rhwng
gwahanol eglwysi Lwtheraidd, yn bennaf ar sail yr esgobaeth hanesyddol.
Ond mae’r eglwysi Nordig a Baltig wedi mwynhau cymundeb ewcharistaidd
ar hyd y blynyddoedd. Yn ychwanegol mae’r gwledydd Nordig yn
cael eu hystyried fwyfwy fel un rhanbarth ac mae’r eglwysi yn
awr yn cydweithredu’n glos iawn gyda’i gilydd ac o fewn
y Gynhadledd Esgobol Nordig a’r Cyngor Ecwmenaidd Nordig. Cododd
newidiadau gwleidyddol yn Nwyrain Ewrop obaith newydd i eglwysi’r
gwledydd Baltig. Maent yn awr yn datblygu eu bywydau eu hunain ac
maent yn gynyddol yn gwneud cyfraniad at y frawdoliaeth ehangach.
Daw cydweithredu gyda hwy yn fwyfwy pwysig mewn sefyllfa sy’n
newid yn gyflym ac yn cynnig posibiliadau newydd i’r eglwysi. |
| 3 |
Mae’r eglwysi Nordig a Baltig yn dymuno cysylltu
â’r eglwysi Anglicanaidd ym Mhrydain ac Iwerddon, nid
yn unig fel eglwysi cenedlaethol ar wahân, ond hefyd fel grwpiau
o eglwysi. Mae’r Comisiwn yn falch o gysylltiadau newydd gyda’r
Eglwys Lwtheraidd yn Lithwania. Cred bod y posibilrwydd o gytundeb
newydd, na fydd yn gwahaniaethu rhwng ein heglwysi, yn ymagor o’n
blaenau. |
| 4 |
Cawn ein calonogi yn y gred hon gan dir diwinyddol cyffredin
ddaeth i’r amlwg trwy nifer o’r sgyrsiau Anglicanaidd
Lwtheraidd. Ymhellach mae’r ffaith bod Eglwys Lloegr ac Eglwys
Efengylaidd yr Almaen wedi derbyn Datganiad Cyffredin Meissen yn dangos
bod dealltwriaeth gynyddol o fewn yr Eglwys. |
| 5 |
Mae’r Anglicaniaid a’r Lwtheriaid hefyd
yn cael eu cynorthwyo gan y cydgyfeiriad ecwmenaidd ehangach, y mae’r
eglwysi Uniongred, Pabyddol a Phrotestannaidd wedi cyfrannu ato, ar
athrawiaeth yr Eglwys, y weinidogaeth a’r sacramentau. Mae’r
cydgyfeirio hwn wedi ein galluogi i symud tu hwnt i’r ffyrdd
o feddwl a’r camddealltwriaethau sydd wedi atal ein hymchwil
am undod rhwng Anglicaniaid a Lwtheriaid yn y gorffennol. O bwysigrwydd
arbennig y mae’r ddealltwriaeth o ddirgelwch yr Eglwys fel corff
Crist, fel pererinion Duw, (koinonia), a hefyd fel cyfrannu
trwy dystio i genhadaeth Duw yn y byd a’i gwasanaethu. Mae hyn
yn rhoi cefndir priodol i ymagwedd newydd at y cwestiwn o weinidogaeth
ordeiniedig ac o arolygaeth (episcope). |
| 6 |
Uwchlaw popeth rydym yn wynebu’r her gyffredin
o ymwneud â chenhadaeth Duw i bobl ein gwledydd a’n cyfandir
ar amser o gyfle na welwyd ei debyg, y gellir ei alw yn briodol yn
kairos. |
| B |
Y Tir Cyffredin Rhyngom fel Eglwysi |
| 7 |
Mae ffydd, addoliad ac ysbrydolrwydd pob un o’n
heglwysi wedi eu gwreiddio yn nhraddodiad yr Eglwys apostolaidd. Safwn
mewn parhad gydag Eglwys y cyfnod patristig a chanol oesol yn uniongyrchol
a hefyd trwy ddehongliad cyfnod y Diwygiad. Rydym oll yn deall bod
ein heglwys ein hunain yn rhan o Un Eglwys, Sanctaidd, Gatholig Iesu
Grist a’n bod yn cymryd rhan mewn un genhadaeth apostolaidd
i holl bobl Dduw. Rhannwn yn etifeddiaeth litwrgïol Cristnogaeth
Orllewinol a hefyd ym mhwyslais y Diwygiad ar gyfiawnhad trwy ffydd
ac ar air a sacrament fel moddion gras. Ymgorfforir hyn i gyd yn ein
dogfennau cyffesol a litwrgïol ac mae’n cael ei gydnabod
yn gynyddol fel cwlwm hanfodol rhwng ein heglwysi ac fel cyfraniad
tuag at y mudiad ecwmenaidd ehangach. |
| 8 |
Er gwaethaf ein pellter daearyddol a’r amrywiaeth
eang o ieithoedd, diwylliannau ac mewn datblygiad hanesyddol, mae
gan yr eglwysi Anglicanaidd a Lwtheraidd ym Mhrydain ac Iwerddon ac
yn y gwledydd Baltig a Nordig lawer yn gyffredin, gan gynnwys llawer
o hanes sy’n gyffredin iddynt. Bu cenhadon Eingl Sacsonaidd
a Cheltaidd yn rhan sylweddol o’r gwaith o efengylu yng Ngogledd
Ewrop gan sefydlu rhai o’r esgobaethau hanesyddol yn y gwledydd
Nordig. Mae parhad y dystiolaeth ddi-dor gan esgobion olynol yn yr
esgobaethau a pharhad y bywyd bugeiliol a litwrgïol yng nghadeirlannau
ac eglwysi ein holl genhedloedd yn fynegiad pwysig o barhad y bywyd
Cristnogol ar hyd yr oesoedd, ac o’r undod rhwng yr eglwysi
ym Mhrydain ac Iwerddon ac yng Ngogledd Ewrop. |
| 9 |
Mae pob un o’n heglwysi wedi chwarae rôl
bwysig yn natblygiad cymdeithasol ac ysbrydol y wlad lle mae’n
sefyll. Rydym wedi bod yn ymwybodol o’n cenhadaeth a’n
gweinidogaeth i bawb yn ein gwledydd. Mae’r rhan fwyaf o’n
heglwysi wedi bod a chyfrifoldeb bugeiliol a chyfreithiol weithiau
am fwyafrif y boblogaeth yn ein gwledydd. Yn gynyddol mae’r
dasg hon heddiw yn cael ei chyflawni mewn cydweithrediad ag eglwysi
eraill. |
| C |
Ein Cenhadaeth Gyffredin Heddiw |
| 10 |
Heddiw mae ein heglwysi a’i gwledydd yn wynebu
tasgau a chyfleoedd newydd, yng nghyd-destun llawer o newidiadau mewn
syniadaeth, newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn Ewrop.
Mae’r rhain yn cynnwys: |
| |
a |
ymwybyddiaeth gynyddol gan genhedloedd Ewrop o’u dibyniaeth
ar ei gilydd a’u cyfrifoldeb am ei gilydd, a’r angen i
gywiro anghyfiawnder sy’n deillio o’r rhyfeloedd Ewropeaidd
mewn nifer o ganrifoedd, ond yn arbennig felly yr ugeinfed ganrif,
sydd wedi effeithio ar y byd i gyd; |
| |
b |
cyfleoedd newydd sy’n arbennig o ddramatig yng nghyd-destun
y Baltig o ran efengylu, ailefengylu a gwaith bugeiliol yn ein holl
wledydd, a’r her i ailddatgan y ffydd Gristnogol fel ymateb
i fateroliaeth ymarferol sy’n gyffredin a’r dyheu ymhlith
llawer o bobl am werthoedd ysbrydol; |
| |
c |
angen i ymateb i’r gwagle sy’n deillio o chwalfa system
wleidyddol fonolithig yn Nwyrain Ewrop ac i natur gynyddol amrywiol
cymdeithas ym Mhrydain ac Iwerddon ac yn y gwledydd Nordig; |
| |
d |
cyfleoedd i weithio dros heddwch, cyfiawnder a hawliau dynol, i
leihau’r anghyfartaledd rhwng y cenhedloedd ffyniannus a’r
rhai tlawd sy’n dioddef o orddibyniaeth economaidd, ac i warchod
hawliau ac urddas y tlawd a’r diobaith yn arbennig pobl ymfudol,
ffoaduriaid a lleiafrifoedd ethnig; |
| |
e |
dadl ecolegol o fewn a rhwng gwledydd Gogledd Ewrop, y mae’r
eglwysi wedi dechrau dwyn diwinyddiaeth bositif o greadigaeth ac ymgnawdoliad
iddi gan roi gwerth parhaol i’r ddaear a bywyd yn ei holl ffurfiau; |
| |
f |
angen am ddeialog a dealltwriaeth gyda phobl o hil, diwylliannau
a thraddodiadau crefyddol gwahanol fel partneriaid a chyd-ddinasyddion
yr Ewrop newydd. |
| 11 |
Mae holl brif eglwysi Ewrop yn awr yn ymgynghori gyda’i
gilydd ar y materion hyn, yn arbennig yn dilyn Cynulliad Ecwmenaidd
Ewropeaidd (Basel, 1989), a gyd-noddwyd gan Gynhadledd yr Eglwysi
Ewropeaidd (CEC) a Chyngor Cynadleddau Esgobion Catholig yn Ewrop
(CCEE). Rydym yn ymroddedig i annog y broses hon o ymgynghori ac i
chwarae rhan weithredol yn y mentrau sy’n deillio ohoni. Trwy
ymdrechion ar y cyd o’r fath mewn tystiolaeth a gwasanaeth byddwn
yn adeiladu ar yr undod yr ydym yn ei fwynhau yn barod, ac yn cyfrannu
at yr undod dyfnach sydd o’n blaenau. |
| 12 |
O fewn y berthynas ehangach rhwng y Ffederasiwn Byd
Lwtheraidd a’r Cymundeb Anglicanaidd, daeth ein heglwysi’n
ymwybodol o’r rheidrwydd i wynebu problemau a gweithredu gan
gymryd safbwynt byd-eang. |
| 13 |
Yn wyneb yr holl gwestiynau sy’n codi o’n
cenhadaeth gyffredin heddiw, gelwir ein heglwysi at ei gilydd i ddatgan
dyletswydd o wasanaeth i’r byd ehangach ac i’r cymdeithasau
y maent wedi eu lleoli ynddynt. Yn yr un modd gelwir hwy at ei gilydd
i ddatgan y gobaith Cristnogol yn deillio o ffydd, sy’n rhoi
ystyr i gymdeithasau a nodweddir gan amwyster. Eto gelwir hwy ynghyd
i ddatgan cariad iachaol Duw a chymodi mewn cymunedau a anafwyd gan
erledigaeth, gorthrwm ac anghyfiawnder. Mae’r datganiad cyffredin
hwn mewn gair a sacrament yn dangos dirgelwch cariad Duw, presenoldeb
Duw a Theyrnas Dduw. |