Datganiad Cyffredin

RHAGAIR gan y Cyd-Gadeiryddion

 

1 Gwelwyd newidiadau mawr yn ysgubo dros Ogledd Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf. Gwelir llawer o gysylltiadau newydd mewn masnach, addysg, twristiaeth ac ymgynghori ar faterion amgylcheddol yn cael eu datblygu ar draws y rhanbarth Nordig/Baltig a Phrydeinig/Wyddelig. Yn y cyfnod hwn, â’i newidiadau cyflym, mae gan yr eglwysi Anglicanaidd a Lwtheraidd rôl allweddol i’w chwarae, ac mae’r adroddiad presennol yn cynnig gweledigaeth deuddeg o eglwysi o’r fath – gyda chyfanswm aelodaeth o ryw 50 miliwn o Gristnogion – sy’n dod i gymundeb agosach â’i gilydd gan ymuno mewn gwahanol ffurfiau o gydweithredu ymarferol wrth iddynt roi eu cenhadaeth fodern ar waith. Mae’n destun llawenydd mawr bod y llinynnau Anglicanaidd a Lwtheraidd o Gristnogaeth y Gorllewin wedi ailddarganfod ei gilydd yn y ganrif hon a dechrau tyfu’n nes at ei gilydd, a hwythau a chymaint o wreiddiau cyffredin ac yn dangos cymaint o nodweddion tebyg iawn.
2 Mae Datganiad Cyffredin Porvoo yn ganlyniad i nifer o ddylanwadau pwysig. Y cyntaf oedd y gyfres o Sgyrsiau diwinyddol a ddigwyddodd rhwng Anglicaniaid a Lwtheriaid yn y rhanbarth Nordig a Baltig yn ystod 1909-1951, a’r cytundebau a ddeilliodd o’r trafodaethau hyn. Yn ail, cryfhaodd y berthynas rhwng yr eglwysi hyn yn fawr trwy ddigwyddiadau eraill ar y cyd nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â thrafodaethau i uno eglwysi, yn benodol y gyfres o gynadleddau diwinyddol Eingl-Sgandinafaidd (a gychwynnodd ym 1929) a chynadleddau bugeiliol (a gychwynnodd ym 1978) sy’n dal i barhau. Yn drydydd, crëwyd hinsawdd newydd o drafodaethau diwinyddol ar lefel y byd gan y trafodaethau dwyochrol ac amlochrol yn ystod yr 1970au a’r 80au, fel y tystia’r adroddiadau canlynol yn arbennig: Pullach 1973, Lima (BEM) 1982, Helsinki 1982, Cold Ash 1983 a Niagra 1988. Mae’r adroddiad olaf yma’n arbennig wedi taflu goleuni ar yr hen gwestiynau o Ffydd a Threfn.
3 Daeth y symbyliad uniongyrchol i symud tu hwnt i’r cytundebau cynharach trwy anogaeth bersonol yr Archesgob Robert Runcie (Caergrawnt) a’r Archesgob Bertil Werkstrom (Uppsala) ynghyd ag ymdrechion y swyddogion hynny a wnaeth y trefniadau cychwynnol: y Canon Christopher Hill a’r Canon Martin Reardon (Lloegr), ynghyd â’r Deon Lars Österlin (Sweden) a’r Athro Ola TjÝrhom (Norwy). Mae ein diolch yn fawr iddynt am eu gweledigaeth a’u penderfyniad, a enynnodd ymateb cadarnhaol ym mhob un o’r gwledydd a gymerodd ran.
4 Ychwanegwyd mwy o symbyliad gan Gytundeb Lwtheraidd Esgobaethol 1982 yn yr UDA a gan Ddatganiad Cyffredin Meissen ym 1988 rhwng Eglwys Lloegr ac Eglwysi Efengylaidd Dwyrain a Gorllewin yr Almaen. Arweiniodd pob un o’r cytundebau hyn at groeso ewcharistig o bob tu, rhannu gweinidogaeth ordeiniedig i ryw raddau, dathlu’r ewcharist ar y cyd yn achlysurol ac ymrwymiad i fywyd a chenhadaeth gyffredin. Dywedodd cynrychiolwyr fu’n ymwneud â’r ddwy fenter hon wrthom amdanynt yn bersonol.
5 Cynhaliwyd pedair sesiwn lawn o’r Sgyrsiau Diwinyddol swyddogol yn ystod 1989-92, a chyfarfu Grwp Drafftio bychan rhwng y sesiynau hynny. Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau’r Grwp Drafftio, yn arbennig yr Esgob Stephen Sykes (Ely), yr Esgob Tord Harlin (Uppsala) a’r Dr. Lorenz GrÝnvik (Y Ffindir), a roddodd o’u hamser yn ddiflino i gario’r baich ychwanegol hwn. Hoffem hefyd gofnodi ein gwerthfawrogiad a’n diolch gwresog i bersonau penodol eraill: y rhai fu mor hael wrth gynnig llety a chroeso yn ystod y cyfarfodydd; ein hymgynghorwyr a’n harsyllwyr ecwmenaidd am eu hanogaeth sensitif a’u cyngor adeiladol; y Cyfarwyddwr Gunnel Borgeg²rd am ei gwaith yn cydlynu’r cyfieithiadau Nordig; pawb fu’n ymwneud â gofalu bod yr adroddiad hwn ar gael mewn ieithoedd eraill; a’r aelodau hynny o’r staff a gyfrannodd eu sgiliau diwinyddol a gweinyddol eu hunain: Dr Mary Tanner, Y Parch Geoffrey Brown, Mr Colin Podmore a’r Parch Kaj Engström.
6 Nod y Sgyrsiau hyn oedd symud ymlaen o’n trefniadau tameidiog presennol tuag at y nod o undod gweladwy. Trwy gynaeafu ffrwyth deialogau ecwmenaidd blaenorol roeddem yn gobeithio mynegi mwy o ddealltwriaeth, a datrys yr anawsterau hirhoedlog fu rhyngom parthed esgobaeth ac olyniaeth. Gwelsom fod gennym hanes tebyg a’n bod yn wynebu sialensiau tebyg yn y gymdeithas fodern, ac nad oedd gwahaniaethau hanfodol rhyngom o ran ffydd, bywyd sacramentaidd na gweinidogaeth (gan fod pob eglwys eisoes yn esgobaethol o ran strwythur). Daethom yn sicr bod y ffordd yn agored yn awr i ystyried eglwysi’n gilydd, pob un â’i nodweddion unigryw, fel chwaer eglwysi. Roedd yr amser yn aeddfed i symud yn nes at ein gilydd ac i weithredu cytundeb ymarferol a fyddai’n berthnasol i’r lleygwyr a’r clerigwyr fel ei gilydd wrth weithredu ein cenhadaeth gyffredin.
7 Bu’r diben hwn mor atyniadol i Anglicaniaid a Lwtheriaid mewn gwledydd cyfagos fel bod ein haelodaeth wedi ymestyn. Deuai’r aelodau gwreiddiol o bum gwlad Nordig (Denmarc, y Ffindir, Gwlad yr Iâ, Norwy a Sweden) yn ogystal â Latfia, Estonia a Lloegr. O’r dechrau cyntaf ac ar bob cam o’r daith rhannwyd gwybodaeth lawn gyda chynrychiolwyr eglwysi yn Lithwania yn ogystal ag Iwerddon, yr Alban a Chymru. Rhoddwyd anogaeth i’w presenoldeb a’u haelodaeth lawn gan yr Archesgob George Carey, a fu, cyn iddo gael ei benodi yng Nghaergrawnt yn un o gynrychiolwyr gwreiddiol Lloegr, a chroesawyd y digwyddiad yn gynnes pan ddigwyddodd. Gwelir rhestr lawn o’r rhai fu’n cymryd rhan tua diwedd y ddogfen.
8 Cytunwyd ar y testun terfynol yn unfrydol ar ddydd Mawrth, 13 Hydref 1992 yn Järvenpää, a rhoddwyd y teitl Datganiad Cyffredin Porvoo arno gan ddefnyddio enw’r ddinas yn y Ffindir yr oeddem wedi dathlu’r ewcharist gyda’n gilydd yn ei heglwys gadeiriol ar y Sul blaenorol. Yn wir, chwaraeodd y cyd-destun o addoli y bu’r Anglicaniaid a’r Lwtheriaid yn rhannu’r ewcharist a gweddi foreol a nosweithiol trwy gydol y cyfarfodydd hyn ynddo rôl bwysig iawn i’n dwyn ni, yn enw Duw, i gytundeb.
9

O ran strwythur a chynnwys yr adroddiad hwn, cynigiwn y crynodeb byr hwn:

Pennod 1 yn disgrifio’r cefndir, yn hanesyddol a heddiw gan osod y trafodaethau athrawiaethol dilynol yn gadarn yng nghyd-destun cenhadaeth yr Eglwys. Yn y cyswllt hwn mae’n dilyn safbwynt Adroddiad Niagra.

Pennod II yn rhoi manylion ein cytundeb ar natur yr Eglwys a’r nod o undod gweladwy. Mae paragraffau 20 a 28 yn arbennig o bwysig i’r ddadl ddilynol.

Pennod III yn cofnodi’n gryno y meysydd eang mewn cred ac ymarfer sy’n gyffredin i Anglicaniaid a Lwtheriaid. Mae’r deuddeg rhan i baragraff 32 yn tynnu ar y cytundebau athrawiaethol a gyrhaeddwyd mewn deialogau blaenorol.

Pennod IV yn agor trwy ddynodi ym mharagraff 34 y broblem fawr i’w datrys: sef, gweinidogaeth esgobaethol a’i pherthynas ag olyniaeth. Yna mae’r adroddiad yn torri tir newydd, a ddynodir ym mharagraff 35. Mae’r adrannau dilynol yn haeddu sylw manwl. Wrth geisio rhyddhau ein heglwysi o ganfyddiadau cyfyngedig a negyddol, mae’r bennod hon yn esbonio dealltwriaeth ddyfnach o apostoligrwydd, o’r swydd esgobol, ac o olyniaeth hanesyddol fel ‘arwydd’. Cysylltir y ddadl ddiwinyddol hon eto ym mharagraff 54 gyda chyd-destun cenhadol, a chrynhoir y casgliadau ym mharagraffau 56-57. Gan fod y rhan hon o’r adroddiad yn codi o realiti empeiraidd bywyd yr eglwys mewn deuddeg o wledydd gwahanol, rydym yn cyfeirio’r darllenydd at gyfres o ddeuddeg o draethodau hanesyddol byr ar Esgobaeth yn ein Heglwysi a’n Canon a Chyflwyniad y Canon Christopher Hill i’r Traethodau ar Eglwys a Gweinidogaeth yng Ngogledd Ewrop. O ran y ddealltwriaeth Lwtheraidd o ordeinio yn yr eglwysi Nordig a Baltig, bydd dadansoddiad y Canon John Halliburton o’r ordinaliaid a ddefnyddir heddiw o gymorth i ddarllenwyr Anglicanaidd. Disgrifir a gwerthusir y tebygrwydd a’r gwahaniaethau o ran gweinidogaeth diaconiaid a’u hurddo a’u derbyn mewn traethodau eraill. Wrth grybwyll y deunyddiau hyn rydym yn ychwanegu ein diolch i’r holl ysgrifenwyr, ac yn arbennig i’r Canon Hill am ei waith fel golygydd y Traethodau.

Pennod V yn cynnwys ym mharagraff 58 y Datganiad Porvoo a fydd yn cael ei osod ger bron cyrff llunio penderfyniadau priodol pob eglwys i’w gymeradwyo. Mae cymal b(v) yn ei gwneud yn glir y bydd raid i gyfnewid gweinidogion ordeiniedig fod yn ‘unol ag unrhyw reoliadau a all fod mewn grym o bryd i’w gilydd’. Awgryma hyn dderbyn yn realistig rai cyfyngiadau sydd eisoes yn berthnasol o fewn ein cymundebau, e.e. parthed gweinidogaeth esgobion benywaidd (a’r rhai a ordeinir ganddynt) neu offeiriaid benywaidd mewn mannau penodol, gofynion bod yn rhesymol o rugl yn yr iaith leol, cymwysterau proffesiynol addas, rheoliadau cyflogaeth y Wladwriaeth, cymryd y llwon arferol, ac ati.

10 Rydym yn awr yn cynnig yr adroddiad hwn i’r eglwysi sy’n cymryd rhan iddynt gael ei archwilio. Mae’r testun yn cael ei gyfieithu i bob un o’r ieithoedd dan sylw, ond y testun Saesneg fydd yn parhau’n ddiffiniol. Fel y mae paragraffau 60 a 61 yn esbonio, nid yw’r argymhellion hyn yn brwydro yn erbyn y berthynas ecwmenaidd sy’n bodoli. Ac eto mae’n amlwg i ni fod i’r adroddiad oblygiadau i eglwysi eraill hefyd, a byddem yn annog ceisio ymateb ymgynghorol gan ein partneriaid ecwmenaidd yn ystod y broses o ymateb. Mae’r dull a fabwysiadwyd gan yr adroddiad hwn, mewn egwyddor, yn un y gellid ei weithredu rhwng partneriaid ecwmenaidd eraill. Iddynt hwy, ac i’n hawdurdodau eglwysig ein hunain, rydym yn cyflwyno’r argymhellion hyn yn wylaidd.
11 Rydym yn gobeithio’n frwd y bydd yr holl eglwysi a gymerodd ran yn cymeradwyo Datganiad Porvoo. Os felly, bydd hwn yn gyfraniad sylweddol iawn at adfer undod gweladwy Eglwys Crist. Cyn gynted ag y bydd un o’r eglwysi Anglicanaidd ac un o’r eglwysi Lwtheraidd wedi cymeradwyo’r Datganiad, gall ei ddarpariaethau gychwyn gweithredu rhyngddynt, yn amodol ar unrhyw newidiadau angenrheidiol a wneir gan bob eglwys i’w rheolau a’i rheoliadau ei hun. Dim ond ymhen amser y gellir mesur canlyniadau’r Datganiad yn llawn. Rhagwelir na fydd dathliadau cyhoeddus i nodi ein perthynas newydd yn digwydd nes y bydd yr eglwysi sy’n cymryd rhan wedi ymateb.
12 Yn ystod yr ewcharist yng Nghadeirlan Porvoo ar ddydd Sul olaf ein Sgyrsiau fe’n hatgoffwyd gan y pregethwr nad yw ymfalchïo yn ein traddodiadau Anglicanaidd a Lwtheraidd yn ddigon. Os yw’r efengyl am gael diffinio a siapio bywydau ein cymunedau, mae’n ofynnol i ni fod yn ffyddlon i’r traddodiad yr ydym wedi ei etifeddu, ond hefyd bod yn barod i ymateb i faterion newydd. Mae her arbennig yn wynebu’r rhai sy’n perthyn i eglwysi cenedlaethol: ymarfer rôl feirniadol a phroffwydol ym mywyd eu cenedl eu hunain, a hefyd tystio i undod yng Nghrist sy’n goresgyn teyrngarwch a ffiniau cenedlaethol. Credwn fod y weledigaeth a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn cynnig ffordd i’n dwyn yn nes at ein gilydd i ymateb i’r her honno, ac i alluogi ein heglwysi i ddwyn tystiolaeth a gwasanaeth Gristnogol effeithiol nid yn unig o fewn eu cenhedloedd a’u diwylliannau eu hunain ond hefyd yn y cefndir Ewropeaidd ehangach.

DAVID GRIMSBY, Y Gwir Barchedig David Tustin, Esgob Grimsby
TORE FURBERG, Y Gwir Barchedig Ddoctor Tore Furberg, Cyn Esgob Visby

Johannesburg, Chwefror 1993

Cynnwys - Rhagair - Pennod I - Pennod II - Pennod III - Pennod IV - Pennod V

 
 
© The Porvoo Churches 2004 | Webmaster | Top of pages